Spineless Wonders of Wales: poetry, presses and zines
This is hybrid event takes place at Y Drwm, NLW/LLGC, Aberystwyth and online, Friday 17 November, 10.00am - 5.30pm
Digwyddiad hybrid yn Y Drwm, LlGC, Aberystwyth ac ar-lein, Tachwedd 17eg 10.00-5.30 p.m.
FREE, register:
Introduction / Gweiadur
Spineless Wonders intro-English
Spineless Wonders is an international network of artists, writers, academics and librarians, creating and researching small press publications including artists books.
Presenting small press material by small publishers in Wales at NLW/LLGC we will be joined online by presentations of material in the Welsh language from library collections at University College London, UCL and The Institute of Historical Research, School of Advanced Study, University of London.
The aim of the day is to focus attention on these small press collections with poetry readings, film and visual art presentations, discussion panels, and a creative workshop.
Poets
National Poet of Wales, Hanan Issa; Hafan press author Aruni McShane; Samantha Wynne-Rhydderch and Mererid Hopwood.
Panellists
Luke Thurston, Neal Alexander and Eurig Salisbury from Aberystwyth University; Francesca Brooks, York University; Nia Daniel, LLGC/NLW; and Elaine Treharne, Stanford University.
Film and visual art
Rhun Jones, LLGC/NLW and students from the Slade School of Fine Art, UCL.
Librarians and archivists
Timothy Cutts, LLGC/NLW; Liz Lawes, Tabitha Tuckett, and Erika Delbecque, UCL.
Others
Clare Lees, School of Advanced Study, University of London; Mererid Puw Davies, UCL and Sharon Morris, Slade School of Fine Art, UCL.
Simultaneous translation will be available for the Welsh-language presentations and you will be able to ask questions in Welsh throughout the event.
This event is co-sponsored by University College London, the National Library of Wales/ Llyfrgell Genedlaethol Cymru and Stanford University.
Spineless Wonders' core members are the Slade School of Fine Art, UCL; Institute of English Studies, School of Advanced Study; The Department of Art & Performance, Manchester School of Art, Manchester Metropolitan University; and department of English, Dundee University; UCL Small Press, Modernism, Rare Book and Manuscript collections; Senate House Library, University of London; department of English, Stanford University, Stanford CA.
Spineless Wonders intro-Welsh
Rhwydwaith rhyngwladol yw Spineless Wonders, yn cysylltu artistiaid, awduron, academyddion a llyfrgellwyr sy’n creu ac yn ymchwilio cyhoeddiadau gan weisg bychain, gan gynnwys llyfrau artistiaid.
Byddwn yn cyflwyno gweithiau gan gyhoeddwyr bychain Cymreig o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC). Yn ogystal, byddwn yn arddangos a thrafod deunydd Cymraeg o gasgliadau llyfrgelloedd Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a Phrifysgol Stanford ar-lein.
Nod y diwrnod yw tynnu sylw at y casgliadau yma o waith cyhoddwyr bychain, trwy gyfrwng darlleniadau barddoniaeth, cyflwyniadau ffilm a chelf weledol, paneli trafod, a gweithdy creadigol.
Beirdd:
Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa; awdur o Hafan Press, Aruni McShane; Samantha Wynne-Rhydderch a Mererid Hopwood.
Panelyddion:
Luke Thurston, Neal Alexander ac Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth; Francesca Brooks, Prifysgol Efrog; Nia Daniel, LlGC; Elaine Treharne, Prifysgol Stanford.
Ffilm a chelf weledol:
Rhun Jones, LlGC a myfyrwyr o Ysgol Celfyddyd Gain y Slade, UCL.
Llyfrgellwyr ac archifyddion:
Timothy Cutts, LlGC; Liz Lawes a Tabitha Tuckett, ac Erika Delbecque, UCL.
Cyfranwyr eraill:
Clare Lees, Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain; Mererid Puw Davies, UCL a Sharon Morris, Ysgol Celfyddyd Gain y Slade, UCL.
Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer cyflwyniadau yn Gymraeg a gellir gofyn cwestiynau yn Gymraeg drwy gydol y digwyddiad.
Noddir y digwyddiad hwn ar y cyd gan UCL, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Stanford.
Aelodau craidd y rhwydwaith yw Ysgol Gelf Gain y Slade, UCL; Canolfan Astudiaethau Saesneg Ysgol Astudiaethau Uwch Prifysgol Llundain; Adran Gelf a Pherfformio Ysgol Gelf Manceinion, Prifysgol Metropolitan Manceinion; Adran Saesneg Prifysgol Dundee; Casgliadau Gweisg Bychain, Moderniaeth, Llyfrau Prin a Llawysgrifau Llyfrgell UCL; Llyfrgell Senate House, Prifysgol Llundain; Adran Saesneg, Prifysgol Stanford, Stanford, UDA.
Timetable/Rhaglen
Timetable
10.00 Welcome/Croeso
10.05 Library presentations of small press material
NLW/LLGC: Timothy Cutts is Rare Books Librarian at the National Library of Wales, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. He is responsible for the acquisition and cataloguing of books printed before 1831 and modern private-press books, as well as selecting items for conservation, answering enquiries relating to rare books and contributing to exhibitions.
UCL Library: Liz Lawes Subject Liaison Librarian: Fine Art, History of Art, Film Studies, Small Press Collections Library; Dr. Tabitha Tuckett, academic and librarian at the University of Manchester and UCL.
Stanford University: Prof. Elaine Treharne, Roberta Bowman Denning Professor and Professor, by courtesy, of German Studies and of Comparative Literature and Senior Associate Vice Provost for Undergraduate Education. Trustee of NLW/LLGC.
Chairs: Prof. Sharon Morris, Slade School of Fine Art, UCL and Prof. Clare Lees, Director, Institute of English Studies; Professor of Medieval Literature and Vice Dean, School of Advanced Study, University of London
11.05 break 15mins
11.20 Panel discussion
Dr. Neal Alexander, Dept. of English and Creative Writing, Aberystwyth University. From 2015 to 2021, Neal was an editor from 2015 to 2021 of the International Journal of Welsh Writing in English reflecting his long-standing research on Welsh writers writing in English. In this presentation he will be introducing the anthology Glas Nos: Cerddi Dros Heddwch / Poems for Peace, edited by Menna Elfyn and Nigel Jenkins and published in Machynlleth by CND Cymru in 1987.
Dr. Luke Thurston, Dept. of English and Creative Writing, Aberystwyth University. I Luke is Director of the David Jones Centre, Aberystwyth University and his talk is entitled: ‘The trip-wire of sign: David Jones and Sublimation’
Dr Francesca Brooks, Department of English and Related Literature, University of York. Francesca is the author of Poet of the Medieval Modern: Reading the Anglo-Saxon Library with David Jones and her poetry appears in a range of journals including Poem Brut. Her presentation will include references to the Caseg Broadsheets and material on Brenda Chamberlain.
Chair Sharon Morris
12.10 break 5 mins.
12.15 Poetry Reading
Hanan Issa, National Poet of Wales, is a Welsh-Iraqi poet, filmmaker, scriptwriter and artist. Author of My Body Can House Two Hearts, Burning Books, Hanan has also contributed to the essay anthology Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales, published by Repeater Books in 2022.
Aruni McShane, will read from her recent publication, Of Monitors and Men published by Hafan Books. Aruni McShane writes dark, disturbing stories and poems rooted in the cruel realities of life for young women in South Asia under traditional and modern patriarchy. She is about to graduate in Swansea University's MA in Creative Writing.
Tom Cheesman, Prof. Emeritus, Swansea University, is an editor and translator and will introduce Hafan Books. Hafan Books is a project of the charity Swansea Asylum Seekers Support since 2003.
1.05 lunch 1 hour
2.05 Visual presentations
Slade School of Fine Art, UCL, students: Rose Shuckburgh, and Gwenllian Davenport.
Film screening by filmmaker and poet Rhun Maredudd Jones, National Screen and Sound Archive, LLGC/NLW.
Chairs Sharon Morris and Mererid Puw Davies.
2.45 Panel Discussion
Eurig Salisbury, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, will present his poetry in relation to medieval and contemporary sources: Canu caeth a chanu caeth newydd: codi ysbrydoliaeth o’r llawysgrifau. Eurig’s second collection Llyfr Gwyrdd Ystwyth was published by Barddas in 2020.
Nia Mai Daniel, Pennaeth Isadran Archifau, Llawysgrifau a Chofnodion Modern, a Chydlynydd Yr Archif Gerddorol Gymreig, Head of Archives, Manuscripts and Contemporary Records Section, and The Welsh Music Archive Coordinator, NLW/LLGC. ‘Yn syth o’r rhewgell’ a chasgliad ffansîn cerddoriaeth pop Cymraeg yr ‘80au. Bydd Nia yn son am nifer o ffansîn, yn cynnwys 'Yn Syth o'r Rhewgell' sef ffansîn a grëwyd gan Pat Morgan a David R Edwards, a oedd yn aelodau o'r band pop Cymraeg ‘Datblygu’.
Chair and discussant: Prof. Mererid Puw Davies, German Studies, SELCS, UCL; critic, essayist, translator and poet, Mererid is a contributing editor of O’r Pedwar Gwynt, situating Welsh writing in a world context.
3.25 break 15mins.
3.40 Creative writing workshop
Sharon Morris and Mererid Puw Davies tbc.
4.20 break 5mins
4.25 Poetry reading
Samantha Wynne-Rhydderch is a British-Welsh poet, performer, tutor and editor who is currently working on her fourth collection. Samantha’s previous collections are published by Seren and Picador and her small press publications include pamphlets published by Redbeck Press and Rack Press.
Mererid Hopwood, Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, poet, translator and essayist, has been awarded an Eisteddfod chair, crown and prose medal, and Welsh Book of the Year for her collection Nes Draw, 2016. Her recent literary work includes Dychmygu Iaith, Gwasg Prifysgol Cymru, 2022.
Chairs and discussants, Mererid Puw Davies and Sharon Morris.
5.15 closing remarks and thanks to all and announcing future Spineless Wonders events.
5.20 p.m. End of the day.
Rhaglen
10.00 Croeso
10.05 Cyflwyniadau
Gwaith Gweisg Bychain yng Nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Coleg Prifysgol Llundain a Llyfrgell Prifysgol Stanford
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC): Mae Timothy Cutts, Llyfrgellydd Llyfrau Prin, yn gyfrifol yn LlGC am gaffael a chatalogio llyfrau a argraffwyd cyn 1831 a llyfrau modern o weisg preifat, yn ogystal â dewis eitemau ar gyfer cadwraeth, ateb ymholiadau yn ymwneud â llyfrau prin a chyfrannu at arddangosfeydd.
Llyfrgell Coleg Prifysgol Llundain (UCL): Liz Lawes, Llyfrgellydd Cyswllt Pwnc: Celf Gain, Hanes Celf, Astudiaethau Ffilm a Llyfrgell Casgliadau Gweisg Bychain; Dr. Tabitha Tuckett, Academig a Llyfrgellydd Prifysgol Manceinion a UCL.
Prifysgol Stanford: Yr Athro Elaine Treharne, Athro Roberta Bowman Denning, Athro trwy gwrteisi Astudiaethau Almaeneg a Llenyddiaeth Gymharol, ac Uwch Is-Brofost dros Addysg Israddedig. Ymddiriedolwraig LlGC.
Cadeiryddion: Yr Athro Sharon Morris, Ysgol Celfyddyd Gain y Slade, UCL a'r Athro Clare Lees, Cyfarwyddwraig y Ganolfan Astudiaethau Saesneg, Athro Llenyddiaeth Ganoloesol ac Is-Ddeon, Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain.
11.05 Egwyl (15 munud)
11.20 Panel a Thrafodaeth
Dr. Neal Alexander, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Aberystwyth. Rhwng 2015 a 2021 bu Neal yn gyd-olygydd yr International Journal of Welsh Writing in English, yn sgil ei ymchwil helaeth ar awduron o Gymru sy’n ysgrifennu yn Saesneg. Bydd yn cyflwyno'r flodeugerdd Glas Nos: Cerddi Dros Heddwch / Poems for Peace, a olygwyd gan Menna Elfyn a Nigel Jenkins ac a gyhoeddwyd ym Machynlleth gan CND Cymru yn 1987.
Dr. Luke Thurston, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Aberystwyth. Luke yw Cyfarwyddwr Canolfan David Jones, Prifysgol Aberystwyth. Teitl ei sgwrs fydd ‘The Trip-wire of Sign: David Jones and Sublimation’.
Dr. Francesca Brooks, Adran Saesneg a Llenyddiaeth Gysylltiedig, Prifysgol Efrog. Francesca yw awdur Poet of the Medieval Modern: Reading the Anglo-Saxon Library with David Jones ac mae ei barddoniaeth wedi ymddangos mewn amryw o gyfnodolion, gan gynnwys Poem Brut. Yn ei sgwrs, bydd yn sôn am Caseg Broadsheets a deunydd am Brenda Chamberlain.
Cadeirydd: Sharon Morris.
12.10 Egwyl (5 munud)
12.15 Darlleniad Barddoniaeth
Mae Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn fardd a gwneuthurwraig ffilmiau, sgriptwraig ac artist Cymreig-Iracaidd. Hi yw awdur My Body Can House Two Hearts, (Burning Books), ac mae hefyd wedi cyfrannu at y gyfrol Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales, a gyhoeddwyd gan Repeater Books yn 2022.
Bydd Aruni McShane yn darllen o'i gwaith Of Monitors and Men, a gyhoeddwyd gan Hafan Books. Mae Aruni McShane yn ysgrifennu straeon a cherddi tywyll, anesmwyth sydd â’u gwreiddiau yn realiti creulon bywyd i ferched ifanc yn Ne Asia o dan batriarchaeth draddodiadol a modern. Mae hi ar fin graddio yn MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Tom Cheesman, Athro Emeritws, Prifysgol Abertawe, yn olygydd a chyfieithydd, a heddiw bydd yn cyflwyno Hafan Books, prosiect gan yr elusen Swansea Asylum Seekers Support ers 2003 (www.sass.wales / www.hafanbooks.org).
1.05 Cinio (1 awr)
2.05 Cyflwyniadau Gweledol
Rosa Shuckburgh, a Gwenllian Davenport, myfyrwragedd o Ysgol Celfyddyd Gain y Slade, UCL.
Cadeiryddion: Sharon Morris a Mererid Puw Davies.
Dangosiad Ffilm. Cyflwynir gan y gwneuthurwr ffilmiau a'r bardd Rhun Maredudd Jones, Archif Sgrin a Sain, LlGC.
Cadeiryddion: Sharon Morris a Mererid Puw Davies.
2.45 Panel a Thrafodaeth
Bydd Eurig Salisbury, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno ei farddoniaeth mewn perthynas â ffynonellau canoloesol a chyfoes, dan y teitl ‘Canu Caeth a Chanu Caeth Newydd: Codi Ysbrydoliaeth o'r Llawysgrifau’. Cyhoeddwyd ail gasgliad Eurig, Llyfr Gwyrdd Ystwyth, gan Barddas yn 2020.
Nia Mai Daniel yw Pennaeth Archifau, Llawysgrifau a Chofnodion Cyfoes, a Chydlynydd Archif Cerddoriaeth Cymru LlGC. Bydd Nia yn sôn am nifer o ffansîns cerddoriaeth pop Cymraeg yr ‘80au, yn cynnwys Yn Syth o'r Rhewgell a grëwyd gan Pat Morgan a David R. Edwards o’r band Cymraeg Datblygu.
Cadeirydd a Chyfranwraig: Mererid Puw Davies, Athro mewn Almaeneg, UCL. Yn feirniad, ysgolhaig, ysgrifwraig, cyfieithydd a bardd, mae Mererid hefyd yn olygydd cyfrannol i’r cylchgrawn O'r Pedwar Gwynt, sy’n gosod ysgrifennu Cymraeg mewn cyd-destunau byd-eang.
3.25 Egwyl (15 munud).
3.40 Gweithdy Ysgrifennu Creadigol
Sharon Morris a Mererid Puw Davies: i’w gadarnhau.
4.20 Egwyl (5 munud).
4.25 Darlleniad Barddoniaeth
Mae Samantha Wynne-Rhydderch yn fardd, perfformwraig, tiwtor a golygydd Prydeinig-Gymreig. Ymddangosodd ei thair cyfrol o farddoniaeth hyd yma efo Seren a Picador, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei phedwerydd casgliad. Ymhlith ei chyhoeddiadau gyda gweisg bychain mae pamffledi gan Redbeck Press a Rack Press.
Mae Mererid Hopwood, Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a bardd, cyfieithydd a thraethodydd, wedi ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Ennillodd wobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn am ei chasgliad o gerddi Nes Draw, 2016. Un o’i chyhoeddiadau diweddar yw’r llyfr Dychmygu Iaith, Gwasg Prifysgol Cymru, 2022.
Cadeirydd a Chyfranwraig: Sharon Morris.
5.15 Sylwadau i gloi, diolchiadau i bawb a chyhoeddi digwyddiadau nesaf rhwydwaith ‘Spineless Wonders’.
5.20pm Diwedd.
SW partners Aber
Spineless Wonders related
-
-
-
Spineless Wonders
– ongoing
Spineless Wonders is an international network of artists, writers, academics and librarians, creating and researching small press publications including artists books.